
Cafodd Cylch Meithrin Saron a’r Hendre ei sefydlu ym 1968.
Rydym wedi ein lleoli yn Festri Capel y Bedyddwyr Saron. Caiff ei arolygu yn rheolaidd gan ESTYN, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Mudiad Ysgolion Meithrin.
Fel rhieni ein hunain, rydym yn ymwybodol pa mor bwysig yw hi i chi deimlo eich bod yn dewis yr addysg gorau i’ch plentyn, ac felly bydd eich plentyn yn derbyn y gofal a’r addysg gorau yn Cylch Meithrin Saron a’r Hendre.
Cymraeg yw iaith y Cylch Meithrin ond rydym yn rhoi croeso cynnes i bob plentyn, dim ots beth yw’r iaith sy’n cael ei siarad yn y cartref.
Nod ein cylch yw hyrwyddo addysg a datblygiad plant o ddwy flwydd oed hyd at oed ysgol. Mae cyfle i blant gymdeithasu a dysgu trwy chwarae dan arweiniad ein staff proffesiynol, cyfeillgar a brwdfrydig.
Os hoffech drafod unrhyw agwedd o waith y cylch mae croeso i chi gysylltu â ni.
Gweithgareddau:
Byddant yn cynnwys gweithgareddau sydd wedi eu gwreiddio yng ngofynion pedwar maes Canllawiau Senedd Cymru ar gyfer plant cyn ysgol:
Rhifedd
Llythrennedd
Corfforol Cymdeithasol
Dyma esiampl o’r math o weithgareddau fydd yn cael eu cynnal yn y Cylch:
Chwarae a chymdeithasu â phlant eraill
Dysgu drwy chwarae tu fewn a thu allan
Chwarae â thywod, dŵr, toes, tŷ bach twt, jig-sos, teganau, gemau bwrdd, beiciau
Darllen stori, canu a dawnsio
Rhoddir pob cymorth i bob plentyn gyrraedd ei botensial / photensial





Oriau / Ffioedd (o Medi 2023 ymlaen)
Bydd y cylch ar agor bob dydd (yn ystod tymor ysgol) Dydd Llun i Ddydd Gwener ac yn cynnig dwy opsiwn:
Dydd Llun i Dydd Gwener
8:45yb-2:45yp i blant pob oed
8:45yb - 11:45yb i blant 2 oed yn unig
Mae'r ffioedd hyn yn unol â chyfraddau Llywodraeth Cymru ac yn cael eu gwerthuso yn flynyddol.
Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed).
Mae 30 awr yn cynnwys:
o leiaf 10 awr o addysg gynnar yr wythnos - cofrestrwch yma
hyd at 20 awr yr wythnos o ofal plant - cofrestrwch yma
Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth
Lleoliad
Y Festri Capel Saron,
Heol Saron,
Saron,
Rhydamman,
SA18 3LN
Gan ddilyn rheoliadau AGC, mae gofyn i gymhareb staff i blant gael ei ddilyn sef 1:8 dros dair oed, 1:4 i blant dwy oed. Mae’r Cylch yn derbyn plant newydd o’r diwrnod y byddant yn troi’n 2 oed, os oes lle.
-
Catherine (Arweinydd)
Helo, hoffwn gyflwyno fy hun. Fy enw i yw Catherine (Anti Catherine i'r blant), arweinydd newydd Cylch Saron ar Hendre. Mae gen i dros 11 mlynedd o brofiad yn gweithio o fewn y sector gofal plant yma yng Nghymru a thramor. Rwyf wedi cymhwyso mewn Gofal Plant Lefel 3 a Rheolaeth Lefel 5 mewn Gofal Plant.
Mae gen i angerdd dros weithio gyda phlant, ac rwy'n credu y dylai plant fod y tu allan cymaint â phosibl, yn archwilio, yn chwarae ac yn dysgu. Rydw i wir yn credu bod plant yn dysgu trwy chwarae, chwarae rhydd a di-dor.
Yn fy amser rhydd, rwy'n mwynhau bod y tu allan, heicio, rhedeg, a nofio yn y dŵr agored.Edrychaf ymlaen at eich gweld i gyd yn y pentref a'ch croesawu!
-
Carys
Helo, hoffwn gyflwyno fy hun. Fy enw i yw Carys (Anti Carys i’r plant). Rwy'n lleol i'r ardal ac yn falch o ddod o hyd i waith yn y gymuned. Rydw i wedi bod yn gweithio gyda phlant ers dros flwyddyn bellach, rhywbeth rydw i wedi bod eisiau ei wneud ers blynyddoedd, ac rydw i wrth fy modd. Ar hyn o bryd rwy'n astudio ar gyfer fy lefel 3 mewn Gofal Plant tra'n gweithio yma yn y Cylch. Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda phlant, yn helpu a gwylio'r plant yn datblygu eu sgiliau a gweld eu hyder yn tyfu trwy chwarae gyda phethau sy'n eu diddanu a'u ffocws.
Yn fy amser rhydd rwy'n rhedeg bywyd teuluol prysur yn rhedeg o gwmpas ar ôl fy 2 blentyn. Rwy'n mwynhau bod allan yn yr awyr iach, mynd am dro, nofio, a theithio gyda'r teulu.
Edrychaf ymlaen at ddod i'ch adnabod chi i gyd yn well.
Cysylltwch â ni.
ebost: cylchmeithrinsaronarhendre@gmail.com